ANKST119 CASGLIAD ‘PEEL SESSIONS’ DATBLYGU

TEITL – DATBLYGU: PEEL SESSIONS 1987 – 1993
ARTIST – DATBLYGU
RHIF CAT – ANKST 119
DYDD RHYDDHAU – MAY 5th 2008
FORMAT – CD 20 TRAC

‘You’d have to be a bit of a ninny to ignore Datblygu’ – JOHN PEEL
‘Datblygu are the Welsh Gospel’ – GRUFF RHYS

Braint gan ankstmusik yw cyhoeddi fod cewri y sin tanddaearol DATBLYGU ar fin rhyddhau casgliad o draciau hanesyddol. Mae’r grwp (David R. Edwards a Pat Morgan) hefyd newydd recordio trac gwbl newydd – ‘Can y mynach modern’ – a fydd yn ymddangos fel sengl ar label ankstmusik yn yr haf.

Ma’r band wedi penderfynnu dod at ei gilydd i recordio yr un trac yma (ond ddim i berfformio) i ddathlu ymddangosiad casgliad o sesiynau y grwp ar gyfer sioe Radio 1 John Peel a fydd yn dod allan ar ddydd Llun Mai y 5ed.

Mi fydd noson lawnsio ar gyfer y PEEL SESSIONS yn digwydd draw yn Sinema y Drwm yn y Llyfgrell Genedlaethol yn Aberystwyth ar Nos Wener Ebrill y 25ain.
Mi fydd y noson a elwir yn DATBLYGU: Y LLWCH AR EICH SGRIN yn noson o ffilmie am y grwp a fydd hefyd yn gyfle cynta unrhyw le i’r trac newydd gan y band gael ei chwarae yn gyhoeddus. Mi fydd y ffilmie yn cynnwys y ffilmie isod.
ABCDatblygu gan Marc Evans (1990)
Llwch ar y Sgrin gan Peter Telfer (2008)
Datblgyu ar Ankst gan Emyr Glyn Williams (1990-94)
Hefyd mi fydd y noson yn gyfle cynta i brynu copiau o’r PEEL SESSIONS CD.
Mi fydd y noson yn y DRWM yn gyfle i atogffo ein hunain o yrfa a dylanwad y grwp arbennig iawn yma a mae ankstmusik yn disgwyl y bydd David a Pat yn mynychu’r noson fel gwesteion arbennig.