ANKST121 – SENGL FEINYL UN CAN GAN DATBLYGU

Title: Cân y Mynach Modern / Bombstar
Artist: Datblygu / Charlie Sharp
Cat No: ANKST 121
Dydd. Rh: Awst 2008
Fformat Record 7”: (nifer cyfyngiedig ar gael)
Ar gael: www.ankst.net / Shellshock / Siopa Cymraeg

Braint gan ANKSTMUSIK yw cyhoeddi fod trac gwbl newydd gan y grwp chwedlonol Datblygu ar fin cael ei rhyddhau. Recordiwyd Cân y Mynach Modern yn gynharach eleni gan David R. Edwards a Pat Morgan draw yn Stiwdio Fflach yn Aberteifi.


Dyma oedd y tro cyntaf i Datblygu recordio ers bron i bymtheg mlynedd. Mae’r trac yn bodoli fel ‘one-off’ gan fod yna ddim cynllunie i Datblygu gynhyrchu unrhyw gerddoriaeth pellach.
Recordiwyd y trac yn benodol ar gyfer noson o ffilmie am y grwp a gynhaliwid draw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth nol ym mis Ebrill (‘Llwch Ar Eich Sgrin’). Mae’r gan llais a piano sy’ prin yn para munud a hanner yn ymgais i ddod a hanes a gyrfa y grwp i ben, rhyw fath o ‘tying up the loose ends…’. Ma hi’n son am y profiada’ ‘ma David wedi profi yn nyddie ola y grwp a be ddigwyddodd iddo fo ar ol i’r grwp ddod i ben.
Mae hi’n bosib deud fod hi’n drac fregus , onest a trist a prin fod trac tebyg iddi wedi cael ei rhyddhau o’r blaen yn y Gymraeg. Mae ochr arall y record yn cynnwys trac gan Charlie Sharp ar wahoddiad David R. Edwards. Mae ‘Bombstar’ unwaith eto yn drac piano a llais sy’n llwyddo i gynhesu rhywfaint ar y gwynt oer sy’n rhedeg trwy ochor arall y record.