DATBLYGU – Casgliad hanesyddol ar CD /Perfformiad byw cynta’ ers 20 mlynedd

Teitl – 1985-1995
Artist – Datblygu
Rhif – ANKST138
Dyddiad Rhyddhau – 1st Mai 2015

Mae’r newyddion fod y casgliad ffantastig ‘DATBLYGU 1985-1995’ wedi ei ail fastro ac ar fin cael ei ail ryddhau ar gyfer clustiau cendehedlaeth newydd o ddilynwyr cerddoriaeth yma yn Nghymru a thu hwnt yn newyddion bendigedig. Heb os Datblygu oedd y grwp mwyaf dylanwadol yn hanes canu roc tanddaearol Cymraeg ac mae’r casgliad yma yn dangos pam – caneuon unigryw, cerddoriaeth rhagorol, gonestrwydd a chariad law yn llaw a dicter a thristwch. Mae’r casgliad yn llawn uchafbwyntiau fel y clasuron pop ‘Y Teimlad’( a recordiwyd gan y Super Furries ar gyfer MWNG), ‘Mynd’, ‘Casserole Efeilliaid’, ‘Pop Peth’ law yn llaw a champweithiau personol fel ‘Ga if fod Sion Corn’ a ‘Maes E’.

Ffurfiwyd Datblygu nol yn 1982 gan ddau fachgen ysgol David R.Edwards a T.Wyn Davies. Ymunodd Pat Morgan yn 1985 a dyma’r ‘line-up’ sydd i’w glywed ar fwyafrif y casgliad yma. Mae’r casgliad yn cynnwys senglau a recordiwyd gan y grwp ar gyfer recordiau Anhrefn, Ofn a Ankst a’r albwm Nadolig – ‘Blwch Tymer Tymor’ a thraciau unigol a recordiwyd ar gyfer recordiau amlgyfrannog gan gynnwys fersiwn o’r clasur gan Geraint Jarman ‘Merch Ty Cyngor’.

Mae’r casgliad yma yn angenrheidiol ar gyfer unrhyw berson sydd yn ymddiddori mewn diwylliant a cherddoriaeth o Gymru. Mae’r cd hefyd yn cynnwys rhagarweinaid egsliwsif gan canwr y Super Furry Animals – Gruff Rhys.

Mi fydd Datblygu(David a Pat) yn perfformio yn fyw am y tro cyntaf ers ugain mlynedd fel rhan o wyl CAM yn Nghaerdydd ar Ebrill 25ain i gyd fynd a ail rhyddhau y casgliad yma

Manylion

http://www.wmc.org.uk/WhatsOn/CAMfest/

1. Y Teimlad
2. Nefoedd Putain Prydain (Cam o’r Tywyllwch-1985 – Recordiau Anhrefn)
3. Hollol, Hollol, Hollol
4. Cyn Symud i Ddim (Gadael yr Ugeinfed Ganrif -1986 – Recordiau Anhrefn)
5. Braidd
6. Casserole Efeilliaid
7. Firws i Frecwast
8. Mynd (Hwgr Grawth-Og – 1986 – Recordiau Anhrefn)
9. Brechdanau Tywod (Dyma’r Rysait – 1988 – Recordiau Ofn)
10. Merch Ty Cyngor (Hen Wlad Fy Nhadau – 1990 – Recordiau Ankst)
11. Pop Peth (Pop Peth – 1990 – Recordiau Ofn)
12. Santa a Barbara
13. Sdim Eisiau Esgus
14. Sgorio Dafydd Iwan Dyn Eira
15. Ga i Fod Sion Corn
16. Asid Amino
17. 3 Tabled Doeth ( Blwch Tymer Tymor – 1991 – Recordiau Ankst)
18. Maes E (Maes E – 1992 – Recordiau Ankst)
19. Amnesia
20. Alcohol (Putsch – 1995 – Recordiau Ankst)