ANKST134 – SPANISH DANCE TROUPE YN CYNNIG CAMPWAITH MELODIC AM GARIAD AR CHWAL

TEITL – LA MUERTE DEL AMOR EN ANDALUCIA
ARTIST – SPANISH DANCE TROUPE
FFORMAT – DIGIPAK CD / LAWRLWYTHO
RHIF – ANKST 134
ALLAN – SENGL 13.05  ALBUM – MEHEFIN

SPANISH DANCE TROUPE yw’r enw ar brosiect cerddorol sy’n gweithio fel blanced cerddorol sy’n amddiffyn calon bregus y canwr a cyfansoddwr pop RICARD.
Mae RICARD yn gerddor o dras Siapanaeg sy’n hannu o Dde America, unigolyn arbennig a ddaeth i sylw Ankst pan gyrraeddodd ym Mae Abertawe efo dim yn ei feddiant heblaw am casgliad o ganeuon melodic dros ben am berthynas a aeth ar chwal, caneuon trist a hyfryd a oedd bron yn ddatganiadau wrth-gariad.

LA MUERTE DEL AMOR EN ANDALUCIA yw’r albym gorffenedig mae Ricard wedi creu ar gyfer y label . Casgliad thematig sy’n olrhain y berthynas melys-chwerw a ddaeth i ben yn Ne Sbaen. Mae cefndir egsotic a amrywiaeth chwaeth cerddorol Ricard yn meddwl fod yr albym yn gasgliad ffres a campus dros ben efo melodiau amhosib i’w anghofio a synnau sy’n atgoffa ti o ffilmie arti o’r chwedegau neu cerddoriaeth pop amrwd o ochr arall y byd.

Symlrwydd a gonestrwydd y profiadau tu ol i’r caneuon yw asgwrn cefn y record yma a mae Ankst wrth ei bodd fod y label yn medru cynnig ‘one-off’ prydferth sydd wedi ymddangos , yn llythrenol, o rywle arall, gwhanol newydd. Mae Ankst yn credu y bydd y gynulleidfa yn cynhesu tuag at, ac yn cynnig croeso i ddoniau a synnau yr artist unigryw yma.

Mae Ricard yn byw bywyd eitha dirgel ac yn gwario llawer o’i amser yn teithio’r byd ond mi fydd o’n ymddangos yma a thraw i chwara ei ganeuon ……felly gwyliwch allan amdano.

Cyn i’r albym ymddangos mi fydd sengl ar gael i’w lawrlwytho …..

HEULWEN( Sunshine )
a
EL HUMO DE UN CIGARRO ME HACE OIR EL RUIDO DE LA GENTE AL COMINAR (Mae mwg sigaret yn neud i mi wrando ar y swn mae pobl sy’n cerdded yn neud)