ANKST125 – THE STILLETOES – ADHDREAMS

TEITL – ADHDREAMS
ARTIST – THE STILLETOES
ALLAN – MAI 2009
RHIF – ANKST 125
FFORMAT – CD Digipak / Download

Braint gan ANKSTMUSIK yw cyhoeddi fod ADHDreams, albym cynta’r grwp ifanc The Stilletoes, ar fin ymddangos. Recordiwyd yr albym undegpedwar trac yn fyw yn stiwdio Bryn Derwen, Bethesda dan oruchwyliaeth John Lawrence ( gitarydd gynt gyda’r Gorkies).

Mae’r albym yn atgyfnerthu’r gred mai’r Stilletoes yw Y grwp newydd mwya cyffrous i ddod allan o’r sin yn Nghymru ers tro hir iawn.

Mae’r Stilletoes yn byrlymu gyda talent, egni a agwedd ac yn fand sy’n medru dweud mwy mewn un can na ma’ rhan fwya o grwpie yn llwyddo i ddeud mewn gyrfa’ cyfa. Dyma fand sy’ wir yn cynnig rhywbeth gwahanol a newydd, efo llais a caneuon y prif leisydd Efa Thomas yn cynnig cip unigryw, dadleuol a ffres i fewn i fywyd bobl ifanc yn eu harddega’ yma yn Nghymru’r unfed ganrif ar ugain. Ma’r grwp i gyd dal yn eu harddega (efo Iago y drymiwr, a brawd Efa, ddim ond newydd gyrraedd 14) ac yn grwp sy’n datblygu ar garlam.
Mae ADHDreams yn gam ymlaen pendant o’r sengl Y Gwir / Sownd a’r tracie One Last Dream (‘You and me got nothing to lose, we’re last in line no matter what they do’) a Ti’m Yn Clywed oddiar Radio Crymi Playlist a rhyddhawyd nol yn 2008.
Ma’r albym yn cynnwys caneuon am y dirwasgiad (Recession This), ‘past it’ indie types (Smoke ‘n’ Snort), datganiada’ personol (I Need to Roam), ymddygiad personol amheus (Cuntrol), caneuon syn ymosod ar yr hiliaeth sy’n bodoli oddi fewn i’r byd Cymraeg (Nazis Cymraeg), y ffordd ma’r ifanc yn cael eu dofi drwy ddefnydd o gyffuriau ‘legal’ a’r system seicatryddol (Diagnonsense), apathi y byd cyffuriau (Methadone Church).
Wrth wrando ar y albym mae hi’n gwbl glir fod na ddim byd ffals am eiriau a perfformiad y grwp yma – They mean it maaaan ! Mae’r albym yn atgoffa ni fod canu roc yn rhywbeth sy’n hollol glwm i deimlada’ a dyheuiada y to ifanc ac ar ADHDreams da ni hefyd yn medru clywed faint mor gyffrous ydi cerddoriaeth y Stilletoes efo cynhyrchu John Lawrence yn llwyddo i ddal egni a ‘in-yer-face-ness’ swn ‘byw’ y band.
Mae fersiwn itunes o’r albym yn cynnwys trac ychwanegol ‘Isolate Figure’.
myspace.com/thestilletoes