ANKST113 – ZABRINSKI’s ILL GOTTEN GAME

TEITL – ILL GOTTEN GAME
ARTIST – ZABRINSKI
FFORMAT – CD
DYDDIAD RHYDDHAU – MEHEFIN 16 2005

Braint gan ANKSTMUSIK yw cyhoeddi fod albym newydd ZABRINSKI yn cael ei ryddhau ar y 16fed o Mehefin 2005.

Mi fydd Ill Gotten Game (ankst 113) yn cael ei ddosbarthu trwy’r DU gan Shellshock Distribution.
Ma Ill Gotten Game yn dilyn llwyddiant ysgybol Koala Ko-Ordination a hon fydd y trydydd albym i ymddangos gan y band ar ankstmusik.
Me’r casgliad newydd yma o draciau yn lleoli y band ifanc o Gymru ymysg y genhedlaeth newydd o fandiau ‘indie’ sy’n sgwennu caneuon llawn melodi, egni a dyfeisgarwch sy’n rheoli’r siartiau ar hyn o bryd.
Ma’r albym yn cynnwys ail recordiad o’r sengl EXECUTIVE DECISION ( a lwyddodd i dderbyn wobr am sengl y flwyddyn yn y cylchgrawn enwog RECORD COLLECTOR ) ynghyd a FEEDING ON OUR FILTH, sengl gwych a gafodd ei rhyddhau ar record 7 modfedd pan chwaraeodd y band fel support i’r Super Furries ar ei taith diweddar o’r DU.
Mae’r albym yn llawn melodiau gwych a synnau esmwyth a arallfydol ac yn sicr y record gora’ i’r band rhyddhau hyd yma.
Mae’r fersiwn yma hefyd yn cynnwys dau fidio pop a mi fydd manylion ynglyn a ymddangosiada’ byw gan y band yn cael ei datgelu yn fuan.

1. Ill Gotten Game (pts 1+2)
2. Feeding on our filth
3. GNVQ
4. Executive Decision
5. Mother my faith in human kindess has somewhat faded recently
6. Hit the Rez
7. Seal my Cave
8. Society and Stuff
9. Go Clone Alone