ANKST112 – CRYMI DVD-ZINE – RHIF DAU ALLAN NAWR

 

Braint gan Ankst Musik yw cyhoeddi fod ail rhifyn o CRYMI ein ffansin cerddoriaeth ar DVD ar fin ymddangos.

Mi fydd copiau o CRYMI #2 ar gael am ddim gyda archebion o’r ankstshop www.ankst.net a hefyd mi fydd hi’n bosib i bobl bigo fyny copiau am ddim yn nghyngherddau ZABRINSKI mis Mawrth / Ebrill .

Mae’r rhifyn newydd yn cynnwys fidios a thraciau ecscliwsif gan ZABRINSKI, WENDYKURK, ECTOGRAM, M C MABON a DATBLYGU. Mi fydd copiau yn ymddangos ar y 26ain o Fawrth.